1 Chronicles 10:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr ARGLWYDD, sef yn erbyn gair yr ARGLWYDD yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly buodd Saul farw am ei fod wedi bod yn anffyddlon ac anufudd i'r ARGLWYDD. Roedd e hyd yn oed wedi troi at ddewiniaeth,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu Saul farw am iddo fradychu'r ARGLWYDD trwy anufuddhau i'w air, a throi at ddewiniaeth am arweiniad yn lle ceisio arweiniad gan yr ARGLWYDD.