1 Chronicles 10:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd holl wŷr Israel, y rhai oedd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a'i feibion; hwy a ymadawsant o'u dinasoedd, ac a ffoesant; a'r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn yn clywed fod y milwyr wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi. A dyma'r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd yr holl Israeliaid oedd yn y dyffryn fod y fyddin wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi marw, gadawsant eu trefi a ffoi; yna daeth y Philistiaid a byw ynddynt.