1 Chronicles 10:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a'i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ddangos i'w delwau, ac i'r bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n cymryd ei arfau oddi arno, torri ei ben i ffwrdd, ac anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi'r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt ei ysbeilio torasant ei ben a chymryd ei arfau oddi arno, ac anfon neges drwy Philistia i gyhoeddi'r newydd da i'w delwau ac i'r bobl.