1 Chronicles 11:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a'i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr ARGLWYDD hwynt ag ymwared mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna dyma nhw'n sefyll eu tir yng nghanol y cae hwnnw. Dyma nhw'n ei amddiffyn ac yn taro'r Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond daliodd ef ei dir yng nghanol y llain, a'i amddiffyn a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.