1 Chronicles 11:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto Dafydd a enillodd dŵr Seion, yr hwn yw dinas Dafydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma bobl Jebws yn dweud wrth Dafydd, “Ddoi di byth i mewn yma!” Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dywedodd pobl Jebus wrth Ddafydd, "Ni chei ddod i mewn yma." Er hynny, fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd,