1 Chronicles 12:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua'r dwyrain, a thua'r gorllewin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r rhai oedd wedi croesi'r Iorddonen yn ystod y mis cyntaf, pan oedd hi wedi gorlifo ei glannau i gyd. Roedden nhw wedi gwneud i bawb oedd yn byw yn y dyffrynnoedd, i'r dwyrain ac i'r gorllewin, ffoi o'u blaenau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r rhai a groesodd yr Iorddonen yn y mis cyntaf, pan oedd yr afon wedi gorlifo'i glannau, gan yrru ar ffo bawb oedd yn byw yn y dyffrynnoedd i'r dwyrain a'r gorllewin.