1 Chronicles 12:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a aeth i'w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i'm cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un â chwi: ond os i'm bradychu i'm gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, DUW ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw, a dweud, “Os ydych wedi dod yn heddychlon i fy helpu i, yna dw i'n barod i ymuno â chi. Ond os ydych chi wedi dod i fy mradychu i'm gelynion, yna bydd Duw ein hynafiaid yn gweld hynny ac yn eich cosbi. Dw i wedi gwneud dim o'i le i chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac aeth yntau allan atynt a dweud, "Os daethoch ataf mewn heddwch i'm cynorthwyo, yr wyf yn barod i ymuno chwi. Ond os daethoch i'm bradychu i'm gelynion, a minnau'n ddieuog, bydded i Dduw ein tadau sylwi a chosbi."