1 Chronicles 12:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywedodd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i'th gynorthwywyr; oherwydd dy DDUW sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a'u croesawodd hwynt, ac a'u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ysbryd yn dod ar Amasai, pennaeth y tri deg, a dyma fe'n canu: “Dŷn ni gyda ti Dafydd! Ar dy ochr di fab Jesse! Heddwch a llwyddiant i ti. A heddwch i'r rhai sy'n dy helpu. Yn wir, mae dy Dduw yn dy helpu.” Felly dyma Dafydd yn eu derbyn nhw ac yn eu gwneud yn gapteiniaid ar griwiau ymosod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddiannwyd Amasai, pennaeth y Deg ar Hugain, gan yr ysbryd, ac meddai: "Yr ydym ni gyda thi, Ddafydd! Yr ydym o'th blaid, fab Jesse! Llwydd, llwydd fo i ti, a llwydd i'th gynorthwywr! Oherwydd dy Dduw yw dy gymorth." Felly croesawodd Dafydd hwy a'u gwneud yn benaethiaid ar finteioedd.