1 Chronicles 12:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda'r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, wrth gyngor, a'i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhai o lwyth Manasse wedi dod drosodd at Dafydd pan aeth gyda'r Philistiaid i ymladd yn erbyn Saul. Ond wnaethon nhw ddim helpu'r Philistiaid achos, ar ôl trafod, dyma arweinwyr y Philistiaid yn eu hanfon i ffwrdd. Roedden nhw'n wedi trafod â'i gilydd a dweud, “Petai e'n mynd drosodd at ei feistr, Saul, bydden ni'n cael ein lladd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ciliodd rhai o wu375?r Manasse at Ddafydd pan ddaeth ef gyda'r Philistiaid i ymladd yn erbyn Saul. Ond ni chynorthwyodd ef y Philistiaid am i'w tywysogion, wedi ymgynghori 'i gilydd, ei yrru i ffwrdd gan ddweud, "Pe bai'n dychwelyd at ei feistr Saul fe gaem ein lladd."