1 Chronicles 12:38 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a'r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y dynion yma i gyd yn barod i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi dod i Hebron i wneud Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Ac roedd gweddill pobl Israel yn cytuno mai Dafydd ddylai fod yn frenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y rhain i gyd yn filwyr parod eu cymorth, a daethant i Hebron yn unfryd i wneud Dafydd yn frenin ar holl Israel. Yr oedd pawb arall yn Israel hefyd yn unfryd o blaid gwneud Dafydd yn frenin.