1 Chronicles 12:40 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hefyd, y rhai oedd agos atynt hwy, hyd Issachar, a Sabulon, a Nafftali, a ddygasant fara ar asynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ychen, yn fwyd, yn flawd, yn ffigys, ac yn resingau, ac yn win, ac yn olew, ac yn wartheg, ac yn ddefaid yn helaeth: oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hefyd roedd pobl eraill, o mor bell ag Issachar, Sabulon a Nafftali, yn dod â bwyd iddyn nhw ar asynnod, camelod, mulod ac ychen. Roedd yno lwythi enfawr o flawd, cacennau ffigys, sypiau o rhesins, gwin, olew olewydd, cig eidion a chig oen. Roedd Israel yn dathlu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd eu cymdogion hefyd, o gyn belled ag Issachar, Sabulon a Nafftali, wedi dod bwyd ar asynnod, camelod, mulod ac ychen. Daethant blawd, teisennau ffigys, grawnwin, gwin, olew, a llawer o wartheg a defaid, oherwydd yr oedd llawenydd yn Israel.