1 Chronicles 12:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai o'r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i'r amddiffynfa i'r anialwch, yn gedyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel, yn medru trin tarian a bwcled, ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac megis iyrchod ar y mynyddoedd o fuander oeddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma rai o lwyth Gad yn dod at Dafydd i'w gaer yn yr anialwch. Roedd y rhain yn ddynion dewr, yn filwyr wedi profi eu hunain mewn rhyfel. Roedden nhw'n cario tarianau a gwaywffyn. Roedd golwg fel llewod arnyn nhw, ac roedden nhw'n gallu rhedeg mor gyflym â gasél ar y bryniau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth rhai o'r Gadiaid at Ddafydd i'r gaer yn yr anialwch. Gwu375?r nerthol oeddent, milwyr profiadol mewn brwydr, yn fedrus tharian a gwaywffon, yn edrych fel llewod ac mor gyflym gafrewigod ar y mynyddoedd.