1 Chronicles 14:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ymgynghorodd â DUW, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a'u rhoddaf hwynt yn dy law di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i yn eu rhoi nhw i ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gofynnodd Dafydd i Dduw, "A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe rof y Philistiaid yn dy law."