1 Chronicles 14:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel i gyd, dyma eu byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth allan i ymladd yn eu herbyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth allan i'w herbyn.