1 Chronicles 15:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch DUW, ond i'r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr ARGLWYDD i ddwyn arch DUW, ac i weini iddo ef yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Dafydd yn dweud, “Dim ond y Lefiaid sydd i gario Arch Duw, neb arall. Nhw mae'r ARGLWYDD wedi eu dewis i gario'r Arch ac i'w wasanaethu am byth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd, "Nid oes neb i gario arch Duw ond y Lefiaid, oherwydd hwy a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD i'w chario ac i'w wasanaethu ef am byth."