1 Chronicles 15:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ydoedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae: a hi a'i dirmygodd ef yn ei chalon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i Arch yr ARGLWYDD gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal merch Saul yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin Dafydd yn neidio a dawnsio, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD Ddinas Dafydd, yr oedd Michal merch Saul yn edrych drwy'r ffenestr, a gwelodd y Brenin Dafydd yn dawnsio ac yn gorfoleddu, a dirmygodd ef yn ei chalon.