1 Chronicles 17:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Myfi a'th gymerais di o'r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly dywed wrth fy ngwas Dafydd, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.