1 Chronicles 18:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i'r ARGLWYDD, gyda'r arian a'r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi ei gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, sef: Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a chysegrodd y Brenin Dafydd hwy i'r ARGLWYDD, yn ogystal 'r arian a'r aur a gymerodd oddi ar yr holl genhedloedd, sef Edom, Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid a'r Amaleciaid.