1 Chronicles 19:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a anfonasant genhadau, ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o'r tu hwnt i'r afon; a Soffach capten llu Hadareser oedd o'u blaen hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y Syriaid yn gweld eu bod wedi colli'r dydd yn erbyn Israel, felly dyma nhw'n anfon am fwy o filwyr. A dyma'r Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i Afon Ewffrates yn dod. Shoffach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y Syriaid iddynt golli'r dydd o flaen Israel, anfonasant negeswyr i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, gyda Sobach, pencapten byddin Hadadeser, yn eu harwain.