1 Chronicles 19:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ddywedodd, Gwnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, oherwydd gwnaeth ei dad â myfi garedigrwydd. Ac anfonodd Dafydd genhadau i'w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon, at Hanun, i'w gysuro ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn dweud, “Dw i am fod yn garedig at Chanŵn fab Nachash, am fod ei dad wedi bod yn garedig ata i.” Felly dyma fe'n anfon ei weision i gydymdeimlo ag e ar golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad Ammon i gydymdeimlo â Chanŵn,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd, "Gwnaf garedigrwydd Hanun fab Nahas, fel y gwnaeth ei dad mi." Felly anfonodd negeswyr i'w gysuro am ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid at Hanun i'w gysuro,