1 Chronicles 19:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun, Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma swyddogion y wlad yn dweud wrtho, “Wyt ti wir yn meddwl mai i ddangos parch at dy dad mae Dafydd wedi anfon y dynion yma i gydymdeimlo? Dim o gwbl! Mae'n debyg fod ei weision wedi dod atat ti i ysbïo ac archwilio'r wlad!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth Hanun, "A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r wlad a'i hysbo a'i goresgyn y daeth ei weision atat?"