1 Chronicles 19:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha a'i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o'u dinasoedd, ac a ddaethant i ryfel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n llogi 32,000 o gerbydau, a dyma frenin Maacha a'i fyddin yn dod ac yn gwersylla o flaen Medeba. A dyma ddynion Ammon yn dod at ei gilydd o'u trefi er mwyn mynd allan i frwydro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyflogasant ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, yn ogystal brenin Maacha a'i fyddin, a daethant i wersyllu o flaen Medeba. Ymgasglodd yr Ammoniaid hefyd o'u dinasoedd a dod allan i ryfel.