1 Chronicles 2:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees. Ond Er, cyntaf‐anedig Jwda, ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac efe a'i lladdodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meibion Jwda: Er, Onan a Shela. (Cafodd y tri yma eu geni i wraig o Canaan, sef merch Shwa.) Roedd Er, mab hynaf Jwda, yn gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD, felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meibion Jwda: Er, Onan a Sela. Mam y tri oedd Bathsua y Ganaanes. Ond pechodd Er, cyntafanedig Jwda, yn erbyn yr ARGLWYDD, a lladdodd yr ARGLWYDD ef.