1 Chronicles 20:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Darfu hefyd wedi gorffen y flwyddyn, yn amser myned o'r brenhinoedd allan i ryfela, arwain o Joab gadernid y llu, ac anrheithio gwlad meibion Ammon, ac efe a ddaeth ac a warchaeodd ar Rabba: ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem: a Joab a drawodd Rabba, ac a'i dinistriodd hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Joab yn arwain ei fyddin i ryfel a dinistrio gwlad yr Ammoniaid. Dyma fe'n gwarchae ar Rabba tra roedd Dafydd yn dal yn Jerwsalem, a dyma Joab yn concro Rabba a'i dinistrio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, arweiniodd Joab y fyddin allan a distrywio Ammon a gosod Rabba dan warchae; ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem. Trawodd Joab Rabba a'i dinistrio.