1 Chronicles 20:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys talent o aur, ac ynddi feini gwerthfawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac efe a ddug anrhaith fawr iawn o'r ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd hi wedi ei gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cymerodd Dafydd goron eu brenin oddi ar ei ben a chael ei bod yn pwyso talent o aur, a bod gem gwerthfawr ynddi; fe'i rhoed ar ben Dafydd.