1 Chronicles 20:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a'i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i'r cawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar ei ddwylo a'i draed — dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fu rhyfel eto yn Gath, yr oedd yno gawr o ddyn gyda chwech o fysedd ar bob llaw a throed, pedwar ar hugain i gyd; ac yr oedd yntau yn hanu o'r Reffaim.