1 Chronicles 21:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd; ai ynteu cleddyf yr ARGLWYDD, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i'r hwn a'm hanfonodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tair blynedd o newyn, tri mis o gael eich erlid gan eich gelynion a'ch lladd mewn rhyfel, neu dri diwrnod o gael eich taro gan yr ARGLWYDD, pan fydd haint yn lledu trwy'r wlad ac angel yr ARGLWYDD yn lladd pobl drwy dir Israel i gyd.’ Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dewis naill ai tair blynedd o newyn, neu dri mis o ffoi o flaen dy wrth-wynebwyr a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd, neu dridiau o haint yn y wlad, sef cleddyf yr ARGLWYDD, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ystyria pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd."