1 Chronicles 21:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A DUW a anfonodd angel i Jerwsalem i'w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr ARGLWYDD a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Duw yn anfon angel i ddinistrio Jerwsalem. Ond wrth iddo wneud hynny, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed. Dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Ornan y Jebwsiad.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd Duw hefyd angel i Jerwsalem i'w dinistrio, ond fel yr oedd ar fin ei dinistrio edrychodd yr ARGLWYDD ac edifarhaodd am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn gyfrifol am y dinistr, "Digon bellach! Atal dy law." Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.