1 Chronicles 21:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng y ddaear a'r nefoedd, a'i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem. A syrthiodd Dafydd a'r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn gweld angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng y ddaear a'r awyr a'r cleddyf yn ei law yn pwyntio at Jerwsalem. A dyma Dafydd a'r arweinwyr, oedd yn gwisgo sachliain, yn plygu a'u hwynebau ar lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna edrychodd Dafydd a gweld angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng daear a nefoedd, 'i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn dros Jerwsalem; ac fe syrthiodd Dafydd a'r henuriaid, a oedd wedi eu gwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau.