1 Chronicles 21:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O ARGLWYDD fy NUW, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Dafydd yn gweddïo ar Dduw, “Onid fi wnaeth benderfynu cyfri'r milwyr? Fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg ofnadwy yma! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. O ARGLWYDD Dduw, cosba fi a'm teulu, a symud y pla oddi wrth dy bobl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd wrth Dduw, "Onid myfi a orchmynnodd rifo'r bobl? Onid myfi sydd wedi pechu a gwneud drwg? Am y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O ARGLWYDD fy Nuw, bydded dy law yn f'erbyn i a'm teulu, ond paid ag anfon pla ar dy bobl."