1 Chronicles 21:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Dafydd wrth Ornan, Moes i mi le y llawr dyrnu, fel yr adeiladwyf ynddo allor i'r ARGLWYDD: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Dafydd yn dweud wrth Ornan, “Dw i eisiau i ti werthu'r llawr dyrnu i mi, er mwyn i mi godi allor i'r ARGLWYDD — gwna i dalu'r pris llawn i ti — i stopio'r pla yma ladd y bobl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd wrtho, "Rho i mi'r llawr dyrnu, er mwyn i mi godi allor yno i'r ARGLWYDD; rho ef i mi am ei lawn bris, er mwyn atal y pla rhag y bobl."