1 Chronicles 21:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd, Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a'r offer dyrnu yn gynnud, a'r gwenith yn fwyd‐offrwm: hyn oll a roddaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Ornan yn dweud wrth Dafydd, “Syr, cymer e, a gwneud beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu'n goed tân, a'r gwenith yn offrwm o rawn. Cymer y cwbl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Ornan wrth Ddafydd, "Cymered f'arglwydd frenin ef a gwneud yr hyn a fyn; edrych, yr wyf yn rhoi'r ychen ar gyfer y poethoffrymau, a'r offer dyrnu yn danwydd a'r gwenith yn fwydoffrwm. Fe gei'r cwbl gennyf."