1 Chronicles 21:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i'r ARGLWYDD yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r brenin Dafydd yn ateb Ornan, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno dy eiddo di yn offrwm i'r ARGLWYDD, neu aberthau i'w llosgi sydd wedi costio dim byd i mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd y brenin wrth Ornan, "Na, rhaid i mi ei brynu am ei lawn werth. Ni chymeraf yr hyn sydd eiddot ti ac aberthu i'r ARGLWYDD boethoffrwm di-gost."