1 Chronicles 21:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i'r ARGLWYDD, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr ARGLWYDD; ac efe a'i hatebodd ef o'r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn adeiladodd allor i'r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn ymateb drwy anfon tân i lawr o'r awyr a llosgi y aberth ar yr allor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Galwodd ar yr ARGLWYDD, ac atebodd yntau ef trwy anfon tn o'r nefoedd ar allor y poethoffrwm.