1 Chronicles 21:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Joab, Chwaneged yr ARGLWYDD ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy arglwydd frenin, onid gweision i'm harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Joab yn ei ateb, “O na fyddai'r ARGLWYDD yn gwneud y fyddin ganwaith yn fwy! Ond fy mrenin, syr, ydyn nhw ddim i gyd yn gwasanaethu fy meistr? Pam wyt ti eisiau gwneud y fath beth? Pam gwneud Israel yn euog?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Joab, "Bydded i'r ARGLWYDD luosogi ei bobl ganwaith yr hyn ydynt. F'arglwydd frenin, onid gweision f'arglwydd ydynt i gyd? Pam y mae f'arglwydd yn gwneud ymholiad fel hyn? Pam y dylai camwedd ddod ar Israel?"