1 Chronicles 21:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond gair y brenin a fu drech na Joab: a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond y brenin gafodd ei ffordd, a dyma Joab yn teithio drwy Israel i gyd, cyn dod yn ôl i Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd gair y brenin yn drech na Joab, ac fe aeth Joab allan a thramwyo trwy holl Israel, a dychwelodd i Jerwsalem. Yna rhodd-odd swm y cyfrifiad o'r bobl i Ddafydd: