1 Chronicles 22:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr ARGLWYDD gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i; ychwanega dithau atynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrych, er mod i'n siomedig, dw i wedi casglu beth sydd ei angen i adeiladu teml yr ARGLWYDD: bron 4,000 o dunelli o aur, 40,000 o dunelli o arian, a cymaint o efydd a haearn does dim posib ei bwyso! Coed a cherrig hefyd. A byddi di'n casglu mwy eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrych, er fy mod yn dlawd, rhoddais ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD gan mil o dalentau aur a miliwn o dalentau arian, a chymaint o bres a haearn fel nad oedd modd eu pwyso am fod cymaint ohonynt, a choed a cherrig yn ogystal. Ychwanega dithau atynt.