1 Chronicles 23:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sancteiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a'i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i ddisgynyddion eu dewis i fod bob amser yn gyfrifol am yr offer cysegredig, i offrymu aberthau o flaen yr ARGLWYDD, ei wasanaethu a'i addoli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i feibion eu neilltuo am byth i sancteiddio'r cysegr sancteiddiaf ac i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw dros byth.