1 Chronicles 24:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Buodd Nadab ac Abihw farw cyn eu tad, a doedd ganddyn nhw ddim plant. Roedd Eleasar ac Ithamar yn gwasanaethu fel offeiriaid.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu farw Nadab ac Abihu yn ddi-blant, a'u tad eto'n fyw; felly daeth Eleasar ac Ithamar yn offeiriaid.