1 Chronicles 24:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyda'r llall; canys tywysogion y cysegr, a thywysogion tŷ DDUW, oedd o feibion Eleasar, ac o feibion Ithamar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er mwyn bod yn deg, cafodd coelbren ei ddefnyddio i'w rhannu nhw, fel bod pob un oedd yn gwasanaethu yn arweinwyr yn y cysegr wedi eu dewis gan Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dosbarthwyd y naill a'r llall trwy goelbren, gan fod swyddogion y cysegr a swyddogion Duw o blith meibion Eleasar a meibion Ithamar.