1 Chronicles 25:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gweledydd y brenin yng ngeiriau DUW, i ddyrchafu'r corn. DUW hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion, a thair o ferched.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y rhain i gyd yn feibion i Heman, proffwyd y brenin. Roedd Duw wedi addo'r meibion yma iddo i'w wneud yn ddyn oedd yn uchel ei barch. Roedd Duw wedi rhoi un deg pedwar o feibion a thair merch iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Heman, gweledydd y brenin, gan fod Duw wedi addo ei ddyrchafu, ac wedi rhoi iddo bedwar ar ddeg o feibion a thair merch.