1 Chronicles 25:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'u nifer hwynt, ynghyd â'u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr ARGLWYDD, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd 288 ohonyn nhw yn canu o flaen yr ARGLWYDD; i gyd yn gerddorion dawnus a phrofiadol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y cyfanrif, gan gynnwys eu brodyr a oedd wedi eu hyfforddi sut i ganu i'r ARGLWYDD ac wedi meistroli'r grefft, oedd dau gant wyth deg ac wyth.