1 Chronicles 26:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O Hosa hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion; Simri y pennaf, (er nad oedd efe gyntaf‐anedig, eto ei dad a'i gosododd ef yn ben;)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gan Chosa, un o ddisgynyddion Merari, feibion: Shimri oedd y mab cyntaf (er nad fe oedd yr hynaf — ei dad oedd wedi rhoi'r safle cyntaf iddo).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O feibion Hosa y Merariad: Simri yn gyntaf (er nad ef oedd y cyntafanedig, gwnaeth ei dad ef yn gyntaf),