1 Chronicles 27:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel: ac ar y trysordai yn y meysydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi hefyd, ac yn y tyrau, yr oedd Jehonathan mab Usseia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Asmafeth fab Adiel oedd yn gyfrifol am stordai'r brenin; Jonathan fab Wseia yn gyfrifol am y stordai brenhinol yn y trefi, pentrefi a'r caerau yn Israel;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dros drysordai'r brenin: Asmafeth fab Abdiel; dros y trysordai yn y wlad, y dinasoedd, y pentrefi a'r caerau: Jehonathan fab Usseia;