1 Chronicles 28:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a gynullodd holl dywysogion Israel, tywysogion y llwythau, a thywysogion y dosbarthiadau, y rhai oedd yn gwasanaethu'r brenin, tywysogion y miloedd hefyd, a thywysogion y cannoedd, a thywysogion holl olud a meddiant y brenin, a'i feibion, gyda'r ystafellyddion, a'r cedyrn, a phob un grymusol o nerth, i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn galw swyddogion Israel i gyd at ei gilydd i Jerwsalem — arweinwyr y llwythau, swyddogion unedau'r fyddin, capteiniaid unedau o fil ac o gant, y swyddogion oedd yn gyfrifol am eiddo ac anifeiliaid y brenin a'i feibion, swyddogion y palas, y milwyr, a'r arwyr milwrol i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Casglodd Dafydd i Jerwsalem holl swyddogion Israel, arweinwyr y llwythau, swyddogion y dosbarthiadau a oedd yn gwasanaethu'r brenin, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, arolygwyr holl eiddo a gwartheg y brenin a'i feibion, ynghyd 'r eunuchiaid, y rhyfelwyr a phob gu373?r nerthol.