1 Chronicles 28:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a roddes o aur wrth bwys, i'r pethau o aur, tuag at holl lestri pob gwasanaeth, ac arian i'r holl lestri arian, mewn pwys, tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd iddo restr o faint yn union o aur ac arian oedd i gael ei ddefnyddio i wneud y gwahanol eitemau a llestri fyddai'n cael eu defnyddio yn yr addoliad —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pennodd bwysau'r aur ar gyfer yr offer aur, a'r arian ar gyfer yr offer arian a ddefnyddid yn y gwahanol wasanaethau: