1 Chronicles 28:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr gan hynny, yng ngŵydd holl Israel, cynulleidfa yr ARGLWYDD, a lle y clywo ein DUW ni, cedwch a cheisiwch holl orchmynion yr ARGLWYDD eich DUW, fel y meddiannoch y wlad dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i'ch meibion ar eich ôl yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, o flaen Israel gyfan, cynulliad pobl yr ARGLWYDD, a Duw ei hun yn dyst, dw i'n dweud: Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, i chi feddiannu'r wlad dda yma, a'i gadael hi'n etifeddiaeth i'ch plant am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, yng ngu373?ydd holl Israel, sef cynulleidfa yr ARGLWYDD, ac yng nghlyw ein Duw ni, gofalwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, er mwyn i chwi feddiannu'r wlad dda hon a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch meibion am byth.