1 Chronicles 29:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, DUW a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a'r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i'r ARGLWYDD DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Brenin Dafydd yn dweud wrth y gynulleidfa: “Llanc ifanc dibrofiad ydy fy mab Solomon, yr un mae Duw wedi ei ddewis i wneud hyn. Mae'r dasg o'i flaen yn un fawr, achos nid adeilad i ddyn fydd hwn, ond i'r ARGLWYDD Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd y Brenin Dafydd wrth yr holl gynulleidfa, "Y mae fy mab Solomon, a ddewiswyd gan Dduw, yn ifanc a dibrofiad, ond y mae'r gwaith yn fawr oherwydd mai palas i'r ARGLWYDD Dduw, ac nid i fod dynol, yw hwn.