1 Chronicles 29:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I ti, ARGLWYDD, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, ARGLWYDD, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O ARGLWYDD, ti ydy'r Duw mawr, cryf, godidog, ac enwog sy'n teyrnasu dros bopeth yn y nefoedd a'r ddaear! Ti ydy'r un sy'n ben ar y cwbl i gyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl.