1 Chronicles 29:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oddi wrthot ti mae pob cyfoeth ac anrhydedd yn dod, achos ti sy'n rheoli'r cwbl i gyd. Gen ti mae pob cryfder a nerth, a ti sy'n rhoi nerth i bobl, ac yn eu gwneud nhw'n enwog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim.